Glamorgan Cricket pledge their support for the Not in my Name campaign

29 Nov 2023 | Cricket

Glamorgan Cricket have pledged their support for the Not in my Name campaign which calls on men to speak out against male violence against women. 

One in 3 women will experience some form of violence and abuse in their lifetime. On average, 2 women a week are killed by a current or former partner in England and Wales.

The Not in my Name campaign, established by NFWI-Wales and Joyce Watson MS in 2012, involves the recruitment of male ambassadors in making the White Ribbon promise to ‘never  use, excuse or remain silent about men’s violence against women’.

Over the years, the campaign has gathered the support of groups and organisations across Wales in raising public awareness including Glamorgan Cricket who first pledged their support in 2014.

Jill Rundle, Chair of NFWI-Wales, said:

“The prevalence of violence against women is alarming and unacceptable. Violence against women is a violation of women’s human rights and has no place in a civilised society.

“Ending violence against women is everyone’s business. We all have a part to play in helping achieve societal change by challenging misogyny and toxic attitudes that can lead to violence against women. 

“Engaging men and boys is crucial. Men and boys can be powerful agents of change and positive role models and we are delighted to have the support of Glamorgan Cricket.

“We will continue to use the voice of the WI to raise awareness and campaign for action to help achieve a society where women are free from the fear of violence and abuse.”

Mae Criced Morgannwg wedi addo eu cefnogaeth i'r ymgyrch ‘Nid yn fy Enw i' sy’n galw ar ddynion i siarad allan yn erbyn trais gan ddynion yn erbyn menywod.

Mae 1 o bob 3 menyw yn profi rhyw fath o drais a chamdriniaeth yn ystod eu hoes. Ar gyfartaledd, mae 2 fenyw yr wythnos yn cael eu lladd gan bartner presennol neu gyn bartner yng Nghymru a Lloegr.

Mae’r ymgyrch Nid yn fy Enw i, a sefydlwyd gan Ffederasiwn Cenedlaethol Sefydliad y Merched-Cymru a Joyce Watson AS yn 2012, yn canolbwyntio ar recriwtio llysgenhadon gwryw i wneud yr addewid Rhuban Gwyn i ‘beidio byth â defnyddio, esgusodi nac anwybyddu trais gan ddynion yn erbyn menywod’.

Dros y blynyddoedd, mae’r ymgyrch wedi derbyn cefnogaeth grwpiau a mudiadau ar draws Cymru mewn codi ymwybyddiaeth cyhoeddus gan gynnwys Criced Morgannwg a gefnogodd yr ymgyrch am y tro cyntaf yn 2014.

Dywed Jill Rundle, Cadeirydd FfCSyM-Cymru:

“Mae nifer yr achosion o drais yn erbyn menywod yn frawychus ac yn annerbyniol. Mae trais yn erbyn menywod yn groes i hawliau dynol menywod ac nid oes iddo le mewn cymdeithas wâr.

“Mae rhoi terfyn ar drais yn erbyn menywod yn fusnes i bawb. Mae gan bob un ohonom ran i'w chwarae i helpu i cyflawni newid cymdeithasol drwy herio casineb ac agweddau gwenwynig a all arwain at drais yn erbyn menywod.

“Mae ymgysylltu â dynion a bechgyn yn hollbwysig. Gall dynion a bechgyn fod yn gyfryngau newid pwerus ac yn fodelau rôl cadarnhaol ac rydym yn falch iawn o gael cefnogaeth Criced Morgannwg.

“Byddwn yn parhau i ddefnyddio llais SyM i godi ymwybyddiaeth ac ymgyrchu am weithredu i helpu i greu cymdeithas lle mae menywod yn rhydd rhag yr ofn o drais a chamdriniaeth.”

Dywed Mark Frost, Rheolwr Datblygu Gweithgareddau’r Gymuned, Criced Cymru & Morgannwg:

“Mae Criced Morgannwg yn falch o gefnogi’r ymgyrch hon, yn enwedig rhannu’r neges gyda bechgyn a dynion yng Nghymru i gymryd sylw o’r neges ‘Nid yn fy Enw i’ bod trais yn erbyn menywod yn gwbl annerbyniol. Mae gan griced rôl i hyrwyddo’r negeseuon hyn ac rydym yn falch o gefnogi’r ymgyrch hon.”

Mark Frost, Community and Development Manager, Glamorgan Cricket and Cricket Wales said:

“Glamorgan Cricket is pleased to get behind this campaign, especially sharing the message with boys and men in Wales to take note of the ‘Not in my name’ message that violence against women is completely unacceptable. Cricket has a role to advocate these messages and we are pleased to support this campaign.”

SHARE